20-Jun-2017
Local firm Wynne Construction, based at Bodelwyddan, will build this new 21st Century primary school facility, amalgamating the all-through 3-11 English medium community primary school on the Abbotts Lane site, together with the demolition of the existing infants school and the construction of improved and increased staff and visitor car parking with the dedicated drop off zone for parents and carers.
The facility will provide a new inspirational learning experience for primary school children.
The project is in its early stages and there will be opportunities for all interested parties to have their say. There will be a public consultation event at the school's Abbotts Lane site on 11th July from 3:30 - 7pm where the public will have the opportunity to talk to the contractors and all the team involved in the new build.
The new purpose built school will include classrooms to accommodate nursery, foundation phase and key stage 1 and 2 for 315 pupils as well as a hall and studio. It will retain the existing sports grassed area.
Building work start dates have yet to be decided, but the contractor is assuring as little disruption as possible to learners and the local community. The new build will be constructed while the school remains open.
Flintshire County Council's Leader, Councillor Aaron Shotton, said: "This is another milestone in the provision of the 21st Century Schools programme in Flintshire. It will be a wonderful modern facility for children, young people and the wider community."
Chris Wynne, Managing Director of Wynne Construction said: "We are delighted to have been selected as the contractor for this exciting new project and we look forward to working with Flintshire County Council, the school and the local community to deliver an inspirational learning environment, providing lasting community benefits including local employment and training."
Finance for the project is currently being sought under the Welsh Government's 21st Century Schools Programme. Match funding will be on a 50:50 basis with Flintshire County Council providing the other 50% of the required finance. This project follows the successful completion of Holywell Learning Campus and Deeside 6th Form College and the recent announcement of the modernisation programme starting later this year at Connah's Quay High School.
For more information, visit http://flintshire.gov.uk/schoolmodernisation, or contact 21stcenturyschools@flintshire.gov.uk.
You can also follow school modernisation on twitter @FCCSchoolMod
---------
Mae Wynne Construction o Fodelwyddan wedi'i ddewis i godi'r ysgol gynradd newydd hon ar gyfer yr 21ain ganrif. Bydd yr ysgolion babanod ac iau presennol yn cael eu dymchwel a bydd yr ysgol i blant 3-11 oed yn uno ar safle Abbotts Lane. Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys creu maes parcio gwell a mwy ar gyfer staff ac ymwelwyr a chreu mannau gollwng i rieni a gofalwyr. Bydd y cyfleuster yn darparu profiad dysgu ysbrydoledig i blant oed cynradd.
Mae'r prosiect ar gam cynnar iawn a bydd cyfleoedd i bob parti  diddordeb ddweud ei ddweud. Bydd digwyddiad ymgynghori cyhoeddus yn cael ei gynnal ar safle Abbotts Lane ar 11 Gorffennaf, o 3.30pm tan 7pm, lle bydd cyfle i'r cyhoedd siarad efo'r contractwyr a'r tim sy'n rhan o'r gwaith o ddatblygu'r ysgol newydd hon.
Bydd yr ysgol newydd bwrpasol hon yn cynnwys neuadd, stiwdio ac ystafelloedd dosbarth ar gyfer disgyblion meithrin, cyfnod sylfaen a chyfnodau allweddol 1 a 2 (cyfanswm o 315 o ddisgyblion. Bydd y cae a'r ardaloedd chwaraeon yn cael eu cadw.
Nid oes dyddiad eto ar gyfer dechrau'r gwaith ond mae'r contractwr wedi sicrhau na fydd y gwaith yn tarfu'n ormodol ar y dysgwyr na'r gymuned. Bydd yr adeilad newydd yn cael ei godi yn ystod y tymor ysgol.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: "Dyma garreg filltir arall wrth ddarparu rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Sir y Fflint. Bydd yn gyfleuster modern a rhagorol ar gyfer plant, pobl ifanc a'r gymuned ehangach."
Meddai Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr Wynne Construction: "Rydym ni'n falch iawn ein bod wedi ein dewis i ymgymryd  gwaith adeiladu'r prosiect newydd cyffrous yma, ac rydym ni'n edrych ymlaen at weithio gyda Chyngor Sir y Fflint, yr ysgol a'r gymuned i ddarparu amgylchedd dysgu ysbrydoledig a buddion cymunedol parhaol, gan gynnwys cyflogaeth a hyfforddiant."
Mae'r cyllid ar gyfer y prosiect yn cael ei sicrhau ar hyn o bryd drwy raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Bydd arian cyfatebol yn cael ei geisio ar sail 50:50 gyda Chyngor Sir y Fflint yn darparu 50%. Mae'r prosiect hwn yn dilyn gorffen Campws Dysgu Treffynnon a Choleg Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy yn llwyddiannus, a'r cyhoeddiad diweddar y bydd rhaglen foderneiddio yn dechrau yn ddiweddarach eleni yn Ysgol Uwchradd Cei Connah.
Am fwy o wybodaeth ewch i http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/School-Modernisation-Related/Home.aspx neu anfonwch e-bost at 21stcenturyschools@flintshire.gov.uk. Gallwch hefyd ddilyn moderneiddio ysgolion ar Twitter, @FCCSchoolMod.
View Our Latest News - More News From 2017 - View Our Project Sectors
© 2023 Wynne Construction. All Rights Reserved - Site Map - Privacy / GDPR - Modern Slavery Statement